SWYDD |
Swyddi Dan Hyfforddiant - Gwaith Cymdeithasol |
RHIF Y SWYDD. |
14SS2101083 |
ADRAN |
GWASANAETHAU CYMDEITHASOL |
CYFLOG |
£15,570 - £18,937 per annum |
Dyddiad Cau |
16 Gorff 2009 |
Amrywiol lefydd yng Ngheredigion.
37 awr yr wythnos.
A ydych yn edrych am newid yn eich gyrfa?
A ydych eisiau derbyn hyfforddiant fel gweithiwr cymdeithasol?
Os felly, mae Adran y Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Ceredigion yn cynnig 2 swydd dan hyfforddiant amser llawn mewn Gradd Gwaith Cymdeithasol, gan ddechrau yn yr Hydref 2009.
Byddwch yn gweithio yn yr Adran fel Gweithiwr Cymdeithasol dan hyfforddiant am leiafswm o 12 mis. Yn ystod y cyfnod hwn bydd disgwyl i chi sicrhau lle ar Raglen Gradd Gwaith Cymdeithasol Prifysgol Cymru amser llawn, i ddechrau ym mis Medi 2010.
Fel Gweithiwr Cymdeithasol dan hyfforddiant, byddwch yn derbyn cyflog, a fydd yn ariannu eich rhaglen astudio, a bydd disgwyl i chi weithio yn yr Adran yn ystod y gwyliau.
Bydd y gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol. Bydd angen gwiriad manylach gyda'r Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer y swydd hon.
Os oes gennych ddiddordeb a’ch bod yn dymuno cael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Tricia Smith, Rheolwraig Hyfforddi ar 01545 572670.
