GWEITHIWR CYMDEITHASOL IECHYD MEDDWL ARBENIGOL


SWYDD
GWEITHIWR CYMDEITHASOL IECHYD MEDDWL ARBENIGOL
RHIF Y SWYDD.
23SS2106002/W
ADRAN
ADRAN Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL
CYFLOG
£24,646 - £30,011
Dyddiad Cau
16 Medi 2010

Gorwelion, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth
SCP 29-36 £24,646 - £30,011

Dyma gyfle cyffrous ar gyfer Gweithiwr Cymdeithasol Iechyd Meddwl i ymuno â’r Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol a leolir yn ngogledd Ceredigion. Byddwch chi’n rhan o dîm amlddisgyblaethol a bydd gennych lwyth gwaith cymhleth o gleientiaid sydd â salwch difrifol ac iechyd meddwl parhaus.  Mae’r Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol yn frwdfrydig ac yn ddeinamig ac fel un o’r     Gweithwyr Cymdeithasol o fewn y tîm eich rôl fydd sicrhau yr   ystyrir persbectif cymdeithasol wrth ddelio â defnyddwyr gwasanaeth a’u gofalwyr.

Bydd gennych y fantais o dderbyn cefnogaeth a goruchwyliaeth reolaidd o fewn y tîm yma.

Yn y swydd yma mi fyddwch chi’n gweithio ochr wrth ochr â’r Uwch Ymarferydd a phobl broffesiynol eraill o fewn y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol i gefnogi cleientiaid sydd â salwch meddwl parhaus a difrifol.  Byddwch chi’n gweithio gyda defnyddwyr gwasanaeth a’u gofalwyr mewn modd cefnogol a heb stigma.  Bydd gennych rôl Cydlynydd Gofal ar gyfer llwyth gwaith cymhleth ac weithiau’n cydweithio â phobl broffesiynol o feysydd eraill.

Bydd gwybodaeth o reoliadau a pholisïau statudol yn dra phwysig.

Rhoddir pwyslais ar ddarparu goruchwyliaeth gefnogol a rheolaidd.

Bydd gwybodaeth o’r Rhaglen Ofal yn ddymunol yn ogystal â sgiliau TG sylfaenol.

Bydd y gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol. 

Dyddiad cau: 16 Medi 2010.

 

Am fwy o wybodaeth ynglyn a’r swydd uchod, ewch i’n gwefan neu ffoniwch 01545 572017 gan ddifynnu’r cyfeirnod.