Amdanom ni

Cyngor Sir Ceredigion yw un o’r cyflogwyr mwyaf yng Ngorllewin Cymru, gan gyflogi dros 3500 o weithwyr mewn ystod eang o swyddi a phroffesiynau er mwyn darparu gwasanaethau ar hyd cefn gwlad ac arfordir Ceredigion.

Y mae Ceredigion yn cynnwys ardal o 180,500 hectar (696 milltir sgwâr) a phoblogaeth o 74,000. Y mae ystod eang o gyfrifoldebau’r Cyngor yn cynnwys iechyd yr amgylchedd, tai, cynllunio, priffyrdd, addysg, llyfrgelloedd, cyfleusterau hamdden, gwasanaethau cymdeithasol, trethu lleol a budd-daliadau, twristiaeth a datblygu economaidd.