
Gall Ceredigion eich ysbrydoli gyda’i chymysgedd diguro o olygfeydd godidog, arfordir dramatig a chymunedau trefi marchnad, glan môr a Phrifysgol llawn bwrlwm.
Rydym yn gobeithio y cewch chi’r un ysbrydoliaeth i ymuno â ni i wasanaethu trigolion y sir sy’n prysur ddatblygu. Beth bynnag fo’ch maes, ymunwch â gweithle cyffrous a gwerth chweil o 3,800, sy’n ymrwymo i ddarparu gwasanaethau o’r radd flaenaf yng Ngheredigion.
Rhybudd ynghylch Adolygu Cyflogau a Graddfeydd
Mae’r Awdurdod wrthi ar hyn o bryd yn cynnal arolwg o gyflogau a graddfeydd yr holl staff heblaw staff dysgu a gyflogir yn unol â’r Amodau Gwasanaeth Cyd-gyngor Cenedlaethol. Mae'n bosibl felly y bydd y raddfa gyflog a nodir yn cael ei newid yn dilyn yr adolygiad.

