Gwybodaeth i Ymgeiswyr
Eich llwyddiant ar gael eich penodi yw man cychwyn y broses o’ch croesawu i ymuno รข staff Ceredigion a gweithio gyda’r Cyngor Sir gorau yng Nghymru, yn ein tyb ni. Mae gan Geredigion record dda o gyflawni cyraeddiadau uchel a chyflwyno cynlluniau blaengar, yn arbennig wrth ddarparu gwasanaethau cost-effeithiol sydd hefyd o safon uchel, ac rydym wrth ein bodd o’ch cael chi i’n helpu ni i gyrraedd y safonau uchel a osodwyd. Mae’r modd y caiff gwasanaethau eu cyflwyno i bobl Ceredigion yn her i ni i gyd ei hwynebu ond mae gennym systemau i gefnogi ein gilydd yn ein gwaith.
Gobeithiaf y bydd eich ymrwymiad i Geredigion yn golygu y cewch lawer o foddhad o’ch swydd ac y gwelwn cyn hir eich cyfraniad i waith y Cyngor yn dwyn ffrwyth.
