Gwerthfawrogir y Gwasanaeth Addysg yn fawr a chaiff le amlwg fel un o flaenoriaethau’r Cyngor Sir. Mae’r buddsoddiad cyllidebol yn gyfatebol uchel – fel y tystia’r cyllid uchel a werir ar gyfartaledd ar bob disgybl mewn cymhariaeth ag AALlau eraill yng Nghymru.
Ailsefydlwyd Ceredigion yn Gyngor Sir ym 1996, ac mae’n un o’r mwyaf gwledig a bychan o’r siroedd o ran poblogaeth yng Nghymru. Mae llawer o’i 76 o ysgolion cynradd a 7 o ysgolion uwchradd ymhlith y lleiaf yng Nghymru. Fodd bynnag, mae lefel cyrhaeddiad disgyblion, yn enwedig lefelau TGAU a’r Safon Uwch ymhlith yr uchaf.
Bu’r Awdurdod ar y blaen gyda datblygiad y cwricwlwm a datblygiad staff mewn mentrau megis "Gwreiddiau ac Adenydd" a CASE; mae nifer sylweddol o ysgolion wedi cyflawni’r Marc Ansawdd a statws "Buddsoddwyr mewn Pobl". Arddangoswyd dyfeisgarwch nodweddiadol gan yr Awdurdod o ran cyfoethogi’r cyfleoedd i wella cyfleusterau ysgolion drwy gyfrwng mentrau megis Cynlluniau Ariannu Preifat (PFI) a Chronfa Her Cymru.
Nid oes swyddi gwag ar gael ar hyn o bryd .
Defnyddiwch y ddolen isaf i weld Swyddi Addysg Gwag yng Ngheredigion: Swyddi Addysg